Neidio i'r cynnwys

Phil Rudd

Oddi ar Wicipedia
Phil Rudd
Rudd yn canu'r drymiau gydag AC/DC yn Seattle yn ystod taith yr albwm Ballbreaker ym 1995.
GanwydPhillip Hugh Norman Witschke Rudzevecuis Edit this on Wikidata
19 Mai 1954 Edit this on Wikidata
Melbourne Edit this on Wikidata
Label recordioEMI Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Galwedigaethrock drummer Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc caled Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://philrudd.com/ Edit this on Wikidata

Drymiwr o Awstralia yw Phillip Hugh Norman Rudd (ganwyd 19 Mai 1954)[1] sy'n canu drymiau i'r band roc AC/DC yn y cyfnod 1975–83 ac ers 1994. Perfformiodd ar 13 o albymau stiwdio AC/DC: T.N.T. (1975), High Voltage (1976), Dirty Deeds Done Dirt Cheap (1976), Let There Be Rock (1977), Powerage (1978), Highway to Hell (1979), Back in Black (1980), For Those About to Rock We Salute You (1981), Flick of the Switch (1983), Ballbreaker (1995), Stiff Upper Lip (2000), a Black Ice (2008), ac ar yr albwm Rock or Bust a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Tachwedd 2014. Rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Head Job, ym mis Awst 2014.

Yn 2014 cafodd Rudd ei arestio yn Seland Newydd ar gyhuddiad o geisio trefnu llofruddiaeth dau o bobl, o fygwth lladd ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant.[2][3] Cafodd y cyhuddiad o geisio trefnu llofruddiaeth ei dynnu'n ôl yn hwyrach.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Phil Rudd. AllMusic. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  2.  Cyhuddo drymiwr AC/DC o geisio trefnu llofruddiaeth. Golwg360 (6 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  3. (Saesneg) AC/DC drummer Phil Rudd on New Zealand murder plot charge. BBC (6 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  4. (Saesneg) Phil Rudd: charge against AC/DC drummer of attempting to procure murder dropped. The Guardian (7 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
Baner AwstraliaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddor roc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.